'Rwyf wedi bwrw'r draul,
I fyn'd yn mlaen o hyd,
Nes gwelwy'r dydd yn gwawrio draw,
Mi wn y daw ryw bryd:
Er gwaetha'm llygredd cas,
Mi ddianga maes o law,
I gol fy Nuw
a'm Priod cu,
Sy'n eiriol droswyf draw.
Mewn gwlad o drafferth blin,
Os rhaid i'm ronyn fod,
Bu'r Iesu'n rhodio yma ei hun,
Rwy'n dilyn ol ei droed;
Efe a'm gwnaiff yn rhydd,
Ryw ddedwydd ddydd a ddaw;
O flaen y fainc mae Mhriod cu,
Yn eiriol droswyf draw.
Er maint yw llid y ddraig,
I ddenu'm henaid llon,
Mi wela sanctaidd had y wraig,
A'm henw ar ei fron:
Dysgwyliaf etto'n wych,
I edrych p'odd y daw:
O flaen y fainc mae Mhriod cu,
Yn eiriol droswyf draw.
Does pleser geny'n awr,
Yn un lle tan y ne',
Mewn newyn ac mewn syched mawr,
Rwy'n teithio tua thre';
Ca'm mhorthi â manna rhad,
O fewn i'r wlad a ddaw;
O flaen y fainc mae Mhriod cu,
Yn eiriol droswyf draw.
Ffarwel deganau'r byd,
Ddo'nt yno
i'm denu mwy;
Mi gaf fawrhau yr Oen o hyd,
Mewn hawddfyd gyda hwy,
Ni welir yno un,
Heb delyn yn ei law:
O flaen y fainc mae Mhriod cu,
Yn eiriol droswyf draw.
William Williams 1717-91
[Mesur: MBD 6686D] gwelir: 'Rwyf yn terfynu 'nghred |
I have spent the expense,
To go forwards always,
Until I see the day dawning yonder,
I know shall come some time:
Despite my detestable corruption,
I shall escape soon,
To my the bosom of my God
and my dear Spouse,
Who is interceding for me yonder.
In a land of grievous trouble,
If I must be for a while,
Jesus walked here himself,
I am following his footprints;
He shall make me free,
Some happy day to come;
Before the throne my dear Spouse,
Is interceding for me yonder.
Despite how great is the dragon's wrath,
To attract my cheerful soul,
I see the sacred seed of the woman,
And my name on his breast:
I watch still wonderfully,
To see whatever shall come:
Before the throne my dear Spouse,
Is interceding for me yonder.
I have no pleasure now,
Anywhere under heaven,
In starvation and in great thirst,
I am travelling home;
I shall get to feed on free manna,
Within the land to come;
Before the throne my dear Spouse,
Is interceding for me yonder.
Farewell trinkets of the world,
They shall not come there
to attract me any more;
I shall get to enjoy the Lamb always,
In blessedness with them,
None shall be seen there,
Without a harp in his hand:
Before the throne my dear Spouse,
Is interceding for me yonder.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|